Pêl-droediwr proffesiynol o Gymru yw Mared Alaw Griffiths (ganwyd 3 Mawrth 2007). Mae hi'n chwarae yng nghanol y cae i glwb Uwch Gynghrair y Merched 2 (WSL2) Sunderland ac i dîm cenedlaethol Cymru.[1]
Bywyd cynnar
Mae hi'n wreiddiol o Drawsfynydd ac yn 2026, roedd hi'n astudio Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau.
Gyrfa ryngwladol
Chwaraeodd i Gymru am y tro cyntaf ar 21 Chwefror 2025, mewn gêm yn erbyn Yr Eidal fel rhan o Gynghrair Cenhedloedd Merched UEFA 2025. Fe wnaeth Griffiths sgorio ei gôl ryngwladol gyntaf ar 25 Hyfref 2025 yn erbyn Awstralia.[2][3]
Goliau ac ymddangosiadau rhyngwladol
Diweddarwyd 7 Mawrth 2026
| Tîm | Blwyddyn | Ymddangosiadau | Goliau |
|---|---|---|---|
| Cymru | 2025 | 4 | 1 |
| 2026 | 2 | 2 | |
| Total | 6 | 3 | |
| Rhif | Dyddiad | Lleoliad | Gwrthwynebwyr | Sgoriodd | Canlyniad | Cystadleuaeth |
|---|---|---|---|---|---|---|
| 1. | 25 Hydref 2025 | Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd, Cymru | Awstralia | 1–1 | 1–2 | Cyfeillgar |
| 2. | 7 Mawrth 2026[4] | Parc y Scarlets, Llanelli, Cymru | Montenegro | 3–0 | 6–1 | Gemau rhagbrofol Cwpan y Byd Merched 2027 |
| 3. | 6–1 |
Cyfeiriadau
- ↑ "Mared Griffiths joins SAFC Women on loan". www.safc.com. Cyrchwyd 2026-03-07.
- ↑ "Why Saturday was special for Mared Griffiths". www.manutd.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mawrth 2026.
- ↑ Halliday, Dylan (26 Hydref 2025). "Mared Griffiths shines with senior goal for Cymru against Australia". Cambrian News. Cyrchwyd 7 Mawrth 2026.
- ↑ "Mared Griffiths yn sgorio ddwywaith wrth i Gymru guro Montenegro 6-1". newyddion.s4c.cymru. 3 Mawrth 2026. Cyrchwyd 3 Mawrth 2026.